Cwrs Trawsnewid 12 Wythnos Annogwr Personol

Cwrs Trawsnewid 12 wythnos Annogwr Personol.
Os wyt ti’n  teimlo ar goll, yn mynd trwy gyfnod trawsneidiol neu yn barod i wneud newidiadau positif yn dy fywyd, dyma y cwrs i ti. Ti’n arbennig, ti’n bwysig a ti’n haeddu buddsoddi yn dy hun. Mae bywyd yn fyr, cer amdani!

Timezone
UTC+0

£1 200.00

Status

Event Details

 

Rhaglen fyw 12 wythnos (ar-lein) gyda Lliwen, sesiynau awr o hyd (sesiwn cyntaf 1.5 awr)

Beth i’w ddisgwyl?

  • Byddaf yn eich cefnogi a’ch annog i wneud newidiadau cadarnhaol yn eich bywyd.
  • Byddwn yn gweithio ar feddylfryd bositif fel eich bod yn gallu teimlo yn hapusach yn eich croen eich hun.
  • Adeiladu a magu hunan hyder trwy ddefnydd o dechnegau gwahanol.
  • Creu goliau byr a hir dymor gyda atebolrwydd wythnosol er mwyn cyrraedd y goliau.
  • Gweithio ar gredoau sydd yn eich dal yn ol rhag gweithredu (limiting beliefs)
  • Cyswllt personol rhwng sesiynau trwy WhatsApp / Messenger.
  • Cefnogaeth emosiynol a cyfle i herio eich hun ar brydau.
  • Lle saff i chi ddadlwytho a bod yn onest iawn gyda chi’ch hun.
  • Cael eglurder o beth rydych chi wirioneddol ei eisiau mewn bywyd a chreu cynllun o sut i fynd amdani!

Os wyt ti’n  teimlo ar goll, yn mynd trwy gyfnod trawsneidiol neu yn barod i wneud newidiadau positif yn dy fywyd, dyma y cwrs i ti. Ti’n arbennig, ti’n bwysig a ti’n haeddu buddsoddi yn dy hun. Mae bywyd yn fyr, cer amdani!

Nid wyf yn gwnselydd ac ni fyddaf yn rhoi unrhyw gyngor meddygol mewn unrhyw sefyllfa*

Telerau ac Amodau