Mi wnaeth y Cwrs Geni Grymus roi yr hwb yr oeddwn angen ar fy nhaith beichiogrwydd, gan fy annog i ymchwilio mwy i’r broses o roi genedigaeth a sut i wneud y dewisiadau cywir ar yr adeg iawn. Roedd y dosbarthiadau yn cynnig gofod diogel a chymuned glos i famau beichiog, ac roedd ei ffordd hwyliog o gyflwyno gwybodaeth yn gwneud y sesiynau’n uchafbwynt wythnosol ar adeg a all fel arall fod yn eithaf ynysig a straenus. Diolch Lliw!