Mae Lliwen yn anhygoel am egluro popeth y dylai’r gweithwyr proffesiynol fod yn ei ddweud wrthych, ond yn anffodus dydyn nhw ddim. Rydw i mor falch fy mod wedi gwneud y cwrs hwn i gael y wybodaeth a wnes i gan Lliwen. Rhoddodd gymaint o hyder imi. Mi wnes i wrthod cael fy inducio pan ddaeth fy mabi yn gynnar mis Chwefror. Ni fyddwn erioed wedi cwestiynu gweithiwr meddygol proffesiynol cyn gwneud y cwrs hwn, ond dwi mor falch fy mod wedi gwneud gan y byddai induction wedi bod yn eithaf trawmatig i mi. Mi wnes i benderfynu cael geni ceseraidd dewisiol yn hytrach na induction a mi roddwn mor falch fymod wedi cymeryd yr amser i wneud y penderfyniad hwn a wedi gwarndo ar fy ngreddf fy hun gan fod y brych wedi dechrau ‘eruptio’. Mi nesi wneud y penderfyniad iawn er fy lles fy hun a fy mabi. Mae’r cwrs yn gwneud i chi deimlo’n rymus iawn a mi fyswn yn ei argymell i unrhyw un sydd yn disgwyl!