Cwrs Geni Grymus Lliwen oedd y penderfyniad gorau wnes i yn ystod beichiogrwydd fy 4ydd plentyn. Roedd geni fy 3ydd yn drawmatig ac roeddwn yn nerfus iawn am y labour tro yma. Rhoddodd y cwrs y wybodaeth a’r hyder yr oedd eu hangen arnaf i wneud dewisiadau gwybodu a nesi ddysgu techengau sut i ymdopi yn ystod y labour ei hun. Mae cael y wybodaeth iawn yn bŵerus, a dwi’n teimlo y byddai fy mhrofiadau geni blaenorol wedi dilyn llwybr gwahanol pe bawn i wedi gwneud y cwrs hwn yn gynt. Gallaf sicrhau na fyddwch yn difaru gwneud y Cwrs Geni Grymus!