“Yn cefnogi merched i deimlo’n hyderus a grymus yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth ac yn y cyfnod ôl-enedigol”
Lliwen MacRae Life Coaching & Hypnobirthing
Amdana i
Lliwen ydw i a dwi’n cynnig cefnogaeth a chymorth wedi’w ganoli ar y ddynes yn ystod beichiogrwydd, geni ac yn ystod y cyfnod ol-geni. Rwy’n Annogwr Personol sydd wedi’i Achredu’n Rhyngwladol ac yn Hyfforddwr Geni Grymus Cymwysedig trwy FEDANT (Ffederasiwn Addysgwyr Cyn Geni).
Rydw i yn byw yn Seland Newydd ond yn gweithio rhan fwyaf arlein gan fy mod yn gweithio efo merched Cymraeg (ar y cyfan). Dwi’n teimlo fod yr angen yne i gynnig gwasanaeth Cymraeg, gonest, hawdd i’w fynychu i ferched beichiog a mamau Cymru.
Cyrsiau a Gwasanaeth
Cwrs Geni Grymus 1:1
Cwrs Geni Grymus wedi’w deilwra yn arbennig ar gyfer y Fam a’r partner geni. Cyfle i weithio 1:1 gyda Lliwen.
Cwrs Grŵp Geni Grymus
Cwrs grwp dros gyfnod o 4 wythnos. Byw, arlein efo Lliwen i’r Fam a’r partner geni.
>>>
Sesiynau Annogwr Personol
Sesiynau Annogwr Personol 1:1 Arlein