Sut y gallaf eich helpu

Dyma restr o’r cyrsiau a’r gwasanaethau rwy’n eu cynnig. Os hoffech wybod mwy am unrhyw gwrs neu wasanaeth, gallwch gysylltu â mi’n uniongyrchol a byddwn yn fwy na pharod i sgwrsio.

Os ydych yn ystyried cwrs Annogwr Personol, beth am fanteisio ar Sesiwn Darganfod AM DDIM gyda mi i drafod sut y gall un o’r cyrsiau fod o fudd i chi. Does dim ‘catch’ dwi’n cynnig yr ymgynghoriad rhad ac am ddim yma i chi oherwydd mae’n bwysig gweithio gyda Annogwr Personol dechi’n teimlo’n gyfforddus efo. Efallai mai fi yw’r person iawn i chi, efallai ddim. Fy mlaenoriaeth yw eich cefnogi yn y ffordd sydd orau i chi.

Cwrs Geni Grymus 1:1

Cwrs 4 wythnos personol i’r Fam a’r partner geni gyda Lliwen (arlein ar amser cyfleus i’r cwpwl).

Cwrs Geni Grymus Grwp

Cwrs Grwp Byw 4 wythnos (arlein gyda Lliwen) i’r Fam a’r partner geni
>>>

Sesiynau Annogwr Personol

Sesiynau annogwr personol 1:1 arlein. Cwrs trawsnewid 12 wythnos. Cwrs Cefnogaeth 6 wythnos

Cysylltwch am fwy o wybodaeth

Gadewch eich manylion isod a byddaf yn cysylltu â chi gyda rhagor o wybodaeth am y cyrsiau a’r gwasanaethau rwy’n eu cynnig