Cwrs Grŵp – Geni Grymus
Gadewch i mi fynd â chi ar daith o deimlo’n bryderus, yn nerfus ac yn ofnus o’ch genedigaeth – i deimlo’n HYDERUS, CYFFROUS a Grymusol i roi genedigaeth i’ch babi!
Coach | Lliwen MacRae |
---|---|
Type | Cwrs grŵp |
Delivery | ar-lein |
Time | >10 awr dros 4 wythnos (2.5 awr y sesiwn) |
Ni fyddwch byth yn difaru buddsoddi yn eich genedigaeth, mae pob Menyw yn haeddu profiad geni grymus!
Ddim yn siŵr? Archebwch ymgynghoriad rhad ac am ddim
$445.00
Beth i’w ddisgwyl?
- Amser i baratoi’n drylwyr ar gyfer eich geni.
- Cefnogaeth i deimlo’n rymus ac yn hyderus am enedigaeth.
- Dod i adnabod pwysigrwydd y cyswllt rhwng y meddwl a’r corff yn ystod beichiogrwydd a sut y gall hyn effeithio eich genedigaeth.
- Dod i adnabod cyplau eraill sy’n disgwyl ar yr un pryd â chi.
- Dysgu technegau ymdopi ac ymlacio yn ystod esgor a genedigaeth
- Llyfryn cwrs geni grymus i atgyfnerthu’r hyn a ddysgir yn y sesiynau
- Cyswllt trwy WhatsApp i ofyn cwestiynnau a chysylltu gyda eraill ar y cwrs
- Traciau geni grymus /Hypnobirthing mp3s
- Rhyddhau ofn o amgylch eich genedigaeth
- Cael amser arbennig unwaith yr wythnos i chi, eich partner geni a’ch babi
- HEFYD adnoddau ychwanegol megis lincs i fidios geni positif, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, dogfen dymuniadau geni ffafriol a MWY!
Gadewch i mi fynd â chi ar daith o deimlo’n bryderus, yn nerfus ac yn ofnus – i gyffrous, hyderus a grymus am eich genedigaeth!
Sesiwn 1: Beth ydy ‘hypnobirthing’/ technegau geni grymus? Y pwysigrwydd rhwng y cysylltiad meddwl/corff a sut mae’n dylanwadu ar ein profiad geni. Dysgu am hunan-hypnosis a sut i ddatblygu meddylfryd gadarnhaol. Pam yden ni’n teimlo poen a sut i deimlo’n fwy cyfforddus?
Sesiwn 2: Dysgu techengau geni grymus ac ymlacio dwfn – pŵer ymlacio! Tylino, delweddu, technegau anadlu, iaith, amgylchedd geni, yr hormonau geni, sut gall eich partner geni eich cefnogi orau + MWY
Sesiwn 3: Sut i gael y gorau o’r system famolaeth. Beth yw eich hawliau a’ch dewisiadau o ran beichiogrwydd a genedigaeth? Sut i wneud y penderfyniadau cywir i chi a’ch babi a theimlo’n hyderus yn eich dewisiadau. Sut y gall eich partner geni eirioli ar eich rhan + MWY
Sesiwn: 4: Camau’r esgor a beth allwn ni ei wneud ym mhob cam i roi hwb i’r hormonau geni a’n helpu i deimlo’n gyfforddus. Sut i atal rhwygo, yr awr aur ar ôl genedigaeth a chreu dogfen dewisiadau geni. Trafod gwahanol senarios a sut i gael profiad geni grymus hyd yn oed os ydy’r esgor yn mynd oddi ar y llwybr roeddech wedi gobeithio amdano.
Dyddiadau ar gyfer 2025:
- Ebrill – 6th, 13th, 20th & 27th @7pm-9:30pm SUNDAY UKT
- Mai – 4th, 11th, 18th & 25th @7pm-9:30pm SUNDAY UKT
- Mehefin – 8th, 15th, 22nd & 29th @7pm-9:30pm SUNDAY UKT
- Gorffennaf – 6th, 13th, 20th & 27th @7pm-9:30pm SUNDAY UKT
- Awst – 3rd, 10th, 17th & 24th @7pm-9:30pm SUNDAY UKT
- Medi – 7th, 14th, 21st & 28th @7pm-9:30pm SUNDAY UKT
- Hydref – 5th, 12th, 19th & 26th @7pm-9:30pm SUNDAY UKT
- Tachwedd – 2nd, 9th, 16th & 23rd @7pm-9:30pm SUNDAY UKT
- Rhagfyr – 30th (of Nov), 7th, 14th & 21st @7pm-9:30pm SUNDAY UKT
Mae pob sesiwn ar ddydd Llun am 7:00pm–9:30pm
Additional information
Mis | Ionawr, Chwefror, Mawrth, Ebrill, Mai, Mehefin, Gorffennaf, Awst, Medi, Hydref, Tachwedd, Rhagfyr |
---|