Mi glywais am y Cwrs Geni Grymus gan ffrind a dwi mor falch fy mod wedi ymuno â’r cwrs! Rwyf i a fy mhartner wedi dysgu gymaint o wybodaeth defnyddiol am y daith geni ac rydym yn teimlo’n llawer mwy hyderus a phositif am roi genedigaeth. Rydym wedi cael cymaint o adnoddau defnyddiol sydd wedi fy helpu i ddatblygu meddylfryd cadarnhaol tuag at yr enedigaeth. Roedd yn braf gallu ymuno â’r sesiynau wythnosol gyda Lliwen – gofod ar-lein braf a chroesawgar i gwrdd â chyplau eraill, trafod ein taith geni a rhannu gwybodaeth gyda’n gilydd. Diolch yn fawr iawn, Lliwen!