Doeddwn i ddim yn siŵr beth oeddwn i’n cofrestru ar ei gyfer mewn gwirionedd, ond roedd gen i ddiddordeb mawr yn y syniad o eni positif felly mi wnes i archebu lle ar y cwrs geni grymus ar ôl fy sgan 20 wythnos er mwyn i mi gael dysgu mwy.

Mae’n wirioneddol anhygoel faint o wybodaeth y gall Lliwen ei rhannu ar draws 4 sesiwn. Es i o fod yn nerfus a chael rhyw fath o ddealltwriaeth (mae camddealltwriaeth yn ddisgrifiad agosach!) o eni i fod yn gyffrous i fy mhrofiad geni a bod yn hyderus i ofyn cwestiynau a gwneud y penderfyniadau iawn i fi a fy mabi.

Mae gan Lliwen lawer o adnoddau y mae’n eu rhannu i wella eich dealltwriaeth a’ch helpu i baratoi ar gyfer eich genedigaeth, pa bynnag fath o enedigaeth dechi’n gynllunio amdano. Byddwch hefyd yn cael llawer o chwerthin wrth i chi gyfarfod!