Sut y gallaf eich helpu
Dyma restr o’r cyrsiau a’r gwasanaethau rwy’n eu cynnig. Os hoffech wybod mwy am unrhyw gwrs neu wasanaeth, gallwch gysylltu â mi’n uniongyrchol a byddwn yn fwy na pharod i sgwrsio.
Os ydych yn ystyried cwrs Annogwr Personol, beth am fanteisio ar Sesiwn Darganfod AM DDIM gyda mi i drafod sut y gall un o’r cyrsiau fod o fudd i chi. Does dim ‘catch’ dwi’n cynnig yr ymgynghoriad rhad ac am ddim yma i chi oherwydd mae’n bwysig gweithio gyda Annogwr Personol dechi’n teimlo’n gyfforddus efo. Efallai mai fi yw’r person iawn i chi, efallai ddim. Fy mlaenoriaeth yw eich cefnogi yn y ffordd sydd orau i chi.

Bwcio cwrs neu wasanaeth

Cwrs Geni Grymus 1:1£299 / arlein
Cwrs Geni Grymus 1:1, 10 awr dros gyfnod o bedair wythnos.
Amserpenodol unwaith yr wythnos i chi, eich partner geni a’ch babi

Cwrs Grŵp Geni Grymus£199 / arlein
Mae pob dynes yn haeddu profiad geni grymus.
Cwrs 10 awr a gynhelir dros gyfnod o bedair wythnos.

Y Cwrs Geni Cesaraidd Grymus£99 / arlein
Ar gyfer cyplau sy’n dewis genedigaeth cesaraidd dewisol grymus.
Gwybod eich hawliau a’ch dewisiadau.

Cwrs Cefnogaeth 6 Wythnos Annogwr PersonolArchebwch ymgynghoriad am ddim
Cwrs Cefnogaeth 6 Wythnos Annogwr Personol
Byddaf yn eich cefnogi ac yn eich annog i wneud newidiadau cadarnhaol yn eich bywyd.

Cwrs Trawsnewid 12 WythnosArchebwch ymgynghoriad am ddim
Cwrs Trawsnewid 12 Wythnos Annogwr Personol
I’r rhai sydd yn barod ac angen gwneud newidiadau positif yn eu bywyd.