Amdana i

Gan fy magu yn un o naw o blant, mae babanod bob amser wedi bod yn rhan annatod o fy mywyd. Ers erioed, dwi wedi cael fy amgylchynnu gan ferched hyderus, cryf a di-flewyn ar dafod!

Mae’r merched yma yn fy mywyd yn rhedeg teuluoedd, busnesau, yn gweithio llawn amser, yn ffarmio ac yn gwylio pob gem rygbi/pelrwyd y plant – hollol angyhoel sut mae nhw yn jyglo mil o bethau ar unwaith a dwi mor falch ohona nhw.

Ond wedi dweud hyn mi gefais sioc i glywed fod rhai o’r merched yma wedi cael profiad negatif, siomedig a thrawmatig wrth roi geni. Nid oedd cefnogaeth digonol, opsiynau, a gwybodaeth trylwyr wedi’w drafod yn ystod beichiogrwydd na geni.

Yn rhu amal, dwi’n clywed y stori o ferch yn cael ei ‘sgubo mewn i ymyrraeth feddygol gan deimlo eu bod wedi colli rheolaeth llwyr o’r sefyllfa. Yn amal iawn mae un ymyrraeth yn dilyn i un arall, ac arall, gan adael trawma emosiynol yn lle y geni grymus sydd yn deilwng i bob dynes wrth roi geni.

Manw Rangi MacRae, ychydig oriau oed.

Mam Newydd

Wrth ddod yn Fam am y tro cyntaf, mi ddois i ddalld faint mor anodd, unig, hormonal, blinedig a NEWID BYD ydy bod yn Fam. Mae dynameg pob perthynas yn newid boed efo’ch partner, teulu neu ffrindiau a mae rhaid dysgu bob dim o’r newydd.

Wrth edrych ‘nol ar enedigaeth Manw fy mhlentyn cyntaf, nesi hefyd deimlo ofn am y geni. Yr oll oeddwn i wedi glywed erioed mwy neu lai oedd faint mor ‘boenus’ a ‘hunllefus’ oedd geni. Felly nesi benderfynu rhoi fy mhen yn fy mhlu a pheidio meddwl am y geni o gwbwl…tan oedd o yn digwydd!

Doeddwn i heb wneud dim gwaith ymchwil amdan beth oedd am ddigwydd, mi wnaeth hyn wneud i mi deimlo yn ofnus iawn. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod fod rhaid i mi eni y brych (er fy mod yn ferch ffarm!)

Nesi jes DDIM meddwl am y peth o gwbwl. Roeddwn yn hollol naif ond ar ol derbyn a ildio i fy nghorff mi gefais enedigaeth llyfn mewn pwll yn uned y bydwragedd yn Wrecsam. Yn sydyn iawn ar ol geni roedd brys mawr i gael y brych allan – cefais fy nhynnu allan o fy swigen geni o ryddhad a balchder lle oni’n meddwl fod pob dim drosodd – i banic. Nid oedd y brych i’w weld yn rhyddhau felly mi roedd rhaid i mi gael ei dynnu efo llaw – yn llythrennol. I mi, dyma oedd rhan waethaf y broses geni. Roeddwn i’n teimlo fel nad oeddwn i’n gwybod beth oedd yn digwydd ac fe waethygodd pethau’n gyflym a’m gadael yn teimlo’n ddifflach ac yn drist. Roedd gen i ofn. Mi adawodd fi’n teimlo’n drist, wedi fy sathru a mewn sioc. Mae’r atgof rwan yn aneglur. Mae’r ymenydd yn dda iawn am geisio anghofio profiadau trawmatig er mwyn ein gwarchod…

Felly, Beth Newidiodd? Hypnoeni!

Erbyn beichiogrwydd fy nhrydedd plentyn mi ddois ar draws ‘hypnobirthing’, wedi’w gyfieithu – ‘hypno-eni’. Rydw i yn casau yr enw yma felly dyne pam dwi yn ei alw yn hytrach, yn gwrs ‘Geni Grymus’!

Dwi hefyd yn teimlo fod yr enw ‘hypnobirthing/hypno-eni’ yn rhoi yr argraff eich bod yn mynd i fod yn dawnsio yn noeth mewn cae neu cael oriawr yn swingio o flaen eich trwyn chi yn ystod y cwrs – dydy o ddim yn gweithio felma, gaddo! Mae o rili yn ymwneud a addysgu am yr holl opsiynau gwahanol ac eich hawliau yn ystod beichiogrwydd a geni.

Yn ogystal a hynny, dysgu technegau gwahanol ar sut i ddelio efo y tonau (contractions/surges) yn ystod geni a sut i baratoi yn feddyliol. Yn fy marn i, mae cwrs geni grymus yn ‘game changer’ a dylai fod pob merch yn gwneud cwrs or fath cyn geni. Mi wnes i fabwysiadu y techengau oni angen i wneud penderfyniadau gwybodus wrth i fy meichiogrwydd ddatblygu ac yn ystod genedigaeth. Mi wnaeth y technegau yma fy ngalluogi i gael geni grymus, hyfryd, adre efo Nant, fy nhrydedd babi. Roedd cael rheolaeth yn ystod fy ngenedigaeth yn gwneud i mi deimlo’n rymus. Mae cwrs geni grymus o fudd mawr pan mae genedigaeth yn gallu mynd oddi ar y llwybr roeddech wedi gobeithio droedio. Gan helpu efo technegau meddylfryd ac addysgu am opsiynau gwahanol, mae’n rhoi y hyder i chi gadw y rheolaeth ar pwer o fewn eich gafael CHI. CHI sydd yn rhoi geni i’r babi yma, CHI sydd geni y dewis ar hawliau. Dylid fod pob dynes yn cael genedigaeth gyda pwyslais ar gefnogaeth emosiynol yn ogystal a chorfforol.

Mae’n bwysig ychwanegu, mae’r Cwrs Geni Grymus yn werthfawr i BOB mam – ble bynnag neu sut bynnag y byddwch chi’n penderfynu geni’ch babi ac mae’n arbennig o werthfawr os nad yw’ch taith geni yn mynd fel roeddech chi wedi gobeithio/dychmygu.

Mae’r cwrs yn eich addysgu am eich hawliau a’ch dewisiadau yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth . Bydd y cwrs yn rhoi technegau i chi ar sut i ymdopi gyda ‘contractions’ a pharatoi’ch hun yn feddyliol ar gyfer un o’r adegau mwyaf anhygoel a phwysig yn eich bywyd.

Beth ydy y Cwrs Geni Grymus?

Cwrs Geni Grymus

Mae cwrs geni grymus yn fuddiol iawn os fyddai genedigaeth yn mynd oddi ar y llwybr yr oeddech wedi gobeithio amdano. Mae dysgu am dechnegau meddylfryd ofalgar ac addysgu am wahanol opsiynau, yn rhoi’r hyder i chi gadw’r pŵer a’r rheolaeth o fewn EICH gafael. Chi sy’n rhoi genedigaeth i’r babi hwn, chi sydd efo’r hawl i wneud y penderfyniadau yn ystod genedigaeth.

Dylai pob dynes gael genedigaeth gyda phwyslais ar gefnogaeth emosiynol yn ogystal â chorfforol. Mae pwysigrwydd cysylltiad rhwng y meddwl a’r corff yn anhygoel ac mae’n hanfodol fod gan y ddynes ofod lle mae hi’n teimlo’n ddiogel yn ystod ei genedigaeth i gael tawelwch meddwl ac i helpu’r corff i roi genedigaeth heb ymyrraeth.

Rydyn ni’n treulio cymaint o amser ac arian ar y cot, y pram, y ‘baby shower’ ond pam nad ydyn ni’n buddsoddi yn ein hunain cyn cael ein geni? Dyma un o’r amseroedd mwyaf pwerus a phwysig yn eich bywyd. Genedigaeth y babi, genedigaeth y fam newydd. Mae’r profiad yn un na fyddwch chi byth yn ei anghofio ac yn rhywbeth a fydd yn aros gyda chi am weddill eich oes.

Pam felly nad ydym yn paratoi’n drylwyr, a rhoi’r cyfle gorau i ni’n hunain gael profiad geni grymus mae pob dynes yn ei haeddu? Ydych chi’n gyrru dramor heb fap? Ydych chi wedi rhedeg marathon heb hyfforddiant? Mae mor bwysig eich bod yn cerdded eich llwybr eich hun i fod yn fam. Mae profiadau, esgor, genedigaeth a babis pawb yn wahanol. Bydd gwybod eich dewisiadau, bod yn wybodus, hyderus a defnyddio ystod eang o dechnegau ‘hypnobirthing’ yn eich helpu i gael y genedigaeth grymus deni gyd yn deilwng i’w gael. Rhaid i ni gymryd perchnogaeth o’n genedigaeth – os nad ni – yna pwy?!

Beth ydy Annogwr Personol?

Gwasanaethau Annogwr Personol

Mae’r trawsnewid i fod yn fam yn NEWID BYD ac yn hynod bwerus. Er fod genai nifer iawn o deulu a ffrindiau oedd yn famau cyn fi, mae profiad pob dynes yn gallu bod mor wahanol.

Mae mor bwysig cydnabod y gall y trawsnewid hwn fod yn anodd, yn rhoi llawer o foddhad, ond hefyd yn anodd.Yn amlwg roeddwn yn teimlo cariad mawr tuag at fy mabi ond eto mi roeddwn yn ei chael hi’n heriol iawn dygymod gyda bod yn fam newydd. Sy’n dod a fi at ‘life coaching’. Eto mae’r cyfieithiad Cymraeg braidd yn naff – ‘hyfforddwr bywyd’. Mae’n well gen i y disgrifiad o ‘Annogwr Personol’. Mi ddois ar draws ‘life coaching’ a sylweddoli faint o effaith uniongyrchol sy’n gallu digwydd dim ond ar ol ambell sesiwn. Mae Annogwr Personol yn berson sy’n hybu, annog a helpu rhywun i wneud newidiadau positif yn eu bywydau.

Dod i wraidd goliau a uchelgeisiau a gweithio allan pam neu beth sydd yn rhwystro y person rhag gweithredu. Yn amal iawn mae rhwystrau fel hyder a beth rydym yn gredu/feddwl am ein hunain yn ein atal rhag symyd ‘mlaen a camu allan o gylchedd negatif. Mae cael annogwr personol pan yn feichiog ac ar ol geni yn werthfawr tu hwnt.

Gareth, fi, Nant (babi), Nara (canol) a Manw

Gan ddechrau eto…

Ers cael ‘life coaching’ fy hun rydw i wedi cael gymaint o agoriad llygad, eglurder a ymwybyddiaeth o be yn union dwi isho fel person.

Nesi golli fy hun am blwc ar ol cael plant, yn debyg iawn i lot o ferched. Dwi’n meddwl es i drwy crisis hunaniaeth ac doni rili ddim yn siwr pwy oni. Mi oni’n teimlo’n euog am weithio llawn amser ond wedyn yn teimlo’n euog os oni adre a ddim yn gweithio. Bob amser yn trio plesho pawb ond yn teimlo fel fy mod i’n gadael rhywun lawr o hyd. Ym mis Tachwedd 2021 mi wnes i ymfudo gyda fy ngwr a’r plant (y bychan mond yn 8 mis oed ar y pryd) gan adael fy nheulu, ffrindiau a gyrfa ar ol. Roeddwn i yn cychwyn eto ym mhob ffordd bosib a mi roeddwn i mewn mwy o crisis nac erioed a dim syniad beth i’w wneud efo fi fy hun.

Roedd POB DIM yn newydd.Felly roeddwn angen wynebu a meddwl go iawn – ‘Pwy ydw i?’, ‘Be dwisho mewn bywyd?’, ‘Be sy’n bwysig i FI?’ Penderfynais gael hyfforddwr bywyd i’m helpu i gael persbectif dyfnach o’r hyn roeddwn i wir ei eisiau o fywyd – Pwy ydw i? Pwy ydw i eisiau bod? Beth sydd angen i mi ei wneud i gyflawni’r nod hwn? Rhywbeth arall oedd yn fuddiol iawn i mi pan yn cael seshynau annog oedd cael rhannu/ dad-lwytho meddyliau ar berson allan o fy nghylch arferol, bod yn HOLLOL onest a hynny mewn rhinwedd HOLLOL gyfrinachol. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ddechrau wynebu, dad-bacio a goresgyn rhwystrau oedd yn fy atal rhag gweithredu.

Buddsoddi ynof fi fy hun

Wrth weithio ar fy hun, ar y cyfan yn canolbwyntio ar fy hunaniaeth a be hoffwn i gyflawni fel person, mi gesi ateb clir yn fy mhen. Mi rydw i wrth fy modd yn helpu bobl ac hefyd wrth fy modd efo geni- beth am gyfuno y ddau beth! Felly mi rydw i wedi fy nghymwyso fel Annogwr Personnol Archrededig Rhyngwladol (Internationally Accredited Life Coach) a hefyd wedi cymhwyso trwy FEDANT (federation of antenatal educators)i fod yn Hyfforddwr Geni Grymus (Qualified Hypnobirthing Instructor). Mae hyn yn caniatáu i mi weithio gyda chi! Mae’r gwaith yn bwysig iawn i fi a dwi’n hynod o angerddol amdano. Hefyd mae’n fy ngalluogi i weithio o adre, o gwmpas y plant a cael balans byw/gweithio gwell – oedd un o fy goliau i wrth weithio gyda fy annogwr personol.

Rydw i’n byw yn Seland Newydd ond yn gweithio rhan fwyaf arlein (yn amlwg) gan fy mod yn gweithio efo merched Cymraeg ar y cyfan. Dwi’n teimlo fod yr angen yne i gynnig gwasanaeth Cymraeg, gonest, hawdd i’w fynychu i ferched beichiog a Mamau Cymru. Rydw i’n falch iawn o allu cynnig y gwasanaeth ar cyrsiau yn Gymraeg a Saesneg gan gynnig cyrsiau ar amseroedd sy’n gweithio yn Seland Newydd a Chymru. Dwi’n edrych ‘mlaen i weithio efo chi er mwyn i chi hefyd gael profiad grymus, positif yn ystod eich geni ac i’ch cefnogi chi trwy famolaeth a thu hwnt!

”Buddsodda yn dy hun, ti a dy fabi yn haeddu fo!”

Cysylltwch am fwy o wybodaeth

Gadewch eich manylion isod a byddaf yn cysylltu â chi gyda rhagor o wybodaeth am y cyrsiau a’r gwasanaethau rwy’n eu cynnig